Lego Mindstorms

English

Lego Mindstorms

Rhaglennu robotiaid Lego i berfformio tasgau'n annibynnol yn defnyddio rhaglennu bloc.

I drafod neu archebu hwn neu unrhyw rai o'n gweithdai eraill, cysylltwch â Tally Roberts

Yr offer rydym yn ei ddarparu

Rydym ni'n darparu'r swyddog cyflwyno a 10 cit Lego EV3 neu 15 Lego NXT Mindstorm. Hefyd gallwn ddarparu 15 gliniadur ar gyfer y gweithdy gyda'r meddalwedd rhaglennu Lego wedi'i osod yn barod.

Caiff ein hunedau Lego EV3 eu hadeiladu ymlaen llaw mewn trefn ddiofyn o'r enw'r Ab3rRov3r, fel y dangosir isod. Mae'r rhain yn rhoi hyblygrwydd i ni edrych ar ddilyn llinell a/neu ganfod rhwystr. Hefyd mae gennym fersiwn estynedig sy'n darparu platfform cargo a bumper sy'n gysylltiedig â synhwyrydd cyffwrdd.

Ein huned  EV3 addysgol

Nodwch nad ydym ni bellach yn cynnig sesiynau rhaglennu yn defnyddio'r Unedau NXT. Mae'r rhain ar gael ar gyfer heriau peirianneg ac arddangosiadau/dangosiadau yn unig.

Beth sydd angen i chi ei ddarparu

Ardal ddesg sy'n ddigon mawr i gynnwys gofynion cyfrifiadurol o leiaf un cyfrifiadur i bob dau fyfyriwr a gofod llawr ar gyfer yr heriau robot.

Os ydych chi'n defnyddio eich cyfrifiaduron eich hun bydd angen i chi osod y meddalwedd Lego ymlaen llaw gan Lego Education.

Hyd y gweithdy

Mae angen o leiaf 60 munud ar gyfer y gweithdy hwn.

Grwpiau oedran

Rydym ni'n argymell y gweithdai hyn ar gyfer blynyddoedd 5-13 (oed 10-18).

Hefyd gellir rhag-raglennu ein hunedau EV3 Ab3rRov3r ar gyfer dangos egwyddorion rhaglennu sylfaenol i oedrannau iau.

Cysylltiad â gweithdai eraill

Er bod modd cynnig y rhain fel gweithdy ar ei ben ei hun, rydym ni'n argymell cyflwyno disgyblion iau i roboteg drwy ein sesiwn 'Beth yw Robot?'.

I fyfyrwyr hŷn, rydym ni'n argymell cysylltu hwn mewn cyfres gyda'n trafodaeth dan arweiniad ar Deallusrwydd Artiffisial.

Gofynion cynnal yn rhithwir

Yn anffodus, nid yw'r gweithdy hwn ar gael i'w gynnal yn rhithwir.

Amrywiadau ar y gweithdy hwn

Os oes gennych amser, gallwn ymestyn y gweithdy hwn i her diwrnod llawn sy'n cynnwys adeiladu, dysgu rhaglennu a heriau amrywiol.

Neu gallwn gynnig sesiynau peirianneg sy'n canolbwyntio ar adeiladu unedau rheoli o bell.

Rydym wedi cynnal digwyddiadau Olympaidd Lego fel rhan o Wythnos Roboteg Aber - sef diwrnod o heriau amrywiol y mae'n rhaid iddynt adeiladu a rhaglennu.

Rydym hefyd yn cynnig heriau a chefnogaeth rhaglennu sydd â mwy o ffocws iddynt i unrhyw dimau sydd am gymryd rhan yn y First Lego League.

Adborth a dderbyniwyd