Cyflwyniad i Micro:Bit

English

Cyflwyniad i Micro:Bit

Cyfrifiadur addysgol maint poced yw Micro:Bit a gynhyrchwyd gan y BBC i helpu i ddatblygu sgiliau codio a STEM o oedran ifanc.

Nod y gweithdy yw cyflwyno ieithoedd rhaglennu bloc sylfaenol a sut y gellir eu defnyddio i raglennu BBC Micro:Bit.

I gael sgwrs neu archebu hwn neu unrhyw un o'n gweithdai eraill, cysylltwch â Tally Roberts

Yr offer rydym yn ei ddarparu

Mae gennym set o 30 BBC Micro:Bit fersiwn 2 gyda chyflenwadau pŵer a cheblau lawrlwytho ar gael ar gyfer gweithdai a gweithgareddau.

Un o'n unedau Micro:Bit V2 gyda chebl a phecyn batri

Os oes angen cyfrifiaduron, mae gennym 15 gliniadur ar gael gyda'r rhaglenni angenrheidiol wedi'u gosod (dim angen rhyngrwyd).

Mae'r gweithdy'n cynnwys Cyflwyniad PowerPoint a chardiau her wedi'u lamineiddio.

Beth sydd angen i chi ei ddarparu

Sgrin/taflunydd ar gyfer cyflwyno.

Os ydych chi'n defnyddio eich cyfrifiaduron eich hun, yna bydd angen cyswllt rhyngrwyd (oni bai bod meddalwedd - Makecode Offline App - wedi'i osod yn flaenorol ar gyfer defnydd all-lein).

Cynghorir y dylai disgyblion ddefnyddio clustffonau gan fod y rhaglennu'n cynnwys seiniau a chyfansoddiadau cerddorol.

Hyd y gweithdy

Gellir cwblhau'r sesiwn cyflwyniad sylfaenol i Micro:Bit mewn awr. Hoffem iddi fod yn hirach os yw'n cynnwys cysyniadau mwy cymhleth.

Grwpiau oedran

Mae'r iaith rhaglennu bloc syml a ddefnyddir yn y gweithdy'n ei wneud yn berffaith i ddechreuwyr iau.

Rydym ni'n argymell hwn ar gyfer rhai rhwng 8 a 13 oed.

Cysylltiad â gweithdai eraill

Rydym ni'n aml yn cynnal y sesiwn hon yn dilyn ein cyflwyniad rhyngweithiol 'Beth yw Robot'.

Mae'r gweithdy hwn yn cynnig cyflwyniad y gellir ei ddefnyddio fel sail ar gyfer prosiect, neu i baratoi ar gyfer ein sesiynau Lego Mindstorms.

Mae'r Micro:Bit hefyd yn ddyfais wych ar gyfer amrywiaeth o brosiectau STEM fel rydym ni'n ei ddangos yn ein gweithdai Labordy Micro:Bit.

Mae'r iaith rhaglennu a ddefnyddir hefyd yn debyg iawn i'r hyn a ddefnyddir yn ein cynnig Scratch a Turtle Block offerings.

Gofynion cynnal yn rhithwir

Nid yw'r unedau Micro:Bit eu hunain yn angenrheidiol ar gyfer y gweithdy hwn gan fod y meddalwedd rhaglennu'n cynnwys efelychydd.

Bydd angen i ddisgyblion gael mynediad at gyfrifiadur, un rhwng dau os yn bosib.

Sgrin cyflwyno neu daflunydd â chyswllt â Teams i gyflwyno'r deunydd.

Allbrint o'r heriau a anfonir drwy e-bost cyn y sesiwn.

Cyswllt rhyngrwyd i'r holl ddisgyblion gan fod cyflwyno o bell yn cynnwys defnydd o ystafell ddosbarth rhaglennu Micro:Bit rithwir ar-lein.

Neu mae gennym hefyd amrywiaeth o adnoddau (taflenni gwaith/canllawiau fideo/heriau) ar ein gwe-dudalen Micro:Bits i Addysgwyr.

Amrywiadau ar y gweithdy hwn

Gall hwn fod yn weithgaredd arunig neu'n rhan o brosiect/cyfres o weithgareddau. Mae'r adran hon yn cynnwys enghreifftiau o'r ffordd mae wedi'i addasu i gyd-fynd ag anghenion/dyheadau'r grŵp.

Robotiaid Carton Llaeth

Cysylltodd athrawon yn Ysgol Gymraeg Aberystwyth â ni gyda phrosiect blwyddyn 6 ar gyfer creu robotiaid carton llaeth yn defnyddio Micro:Bit.

Roedden ni'n gallu cynorthwyo drwy ddarparu'r offer angenrheidiol - yn yr achos hwn Micro:Bit, servos, LEDs a cheblau.

Oherwydd cyfyngiadau Covid-19 ar y pryd, cyflwynwyd yr holl sesiynau'n rhithwir ac yn y drefn hon:


Canlyniadau un dosbarth yn Ysgol Gymraeg Aberystwyth

Her Cerbyd Crwydro M.A.R.S

Rydym yn ffodus o gael tri cherbyd crwydro M.A.R.S gan 4Tronix.

Defnyddiwyd y rhain, ochr yn ochr â drysfa bren fawr a rhai creigiau ewyn ffug, i greu heriau i fyfyrwyr eu goresgyn.

Mae gennym heriau ar dair lefel:

  1. Llywio i leoliad penodol yn y ddrysfa gan ddefnyddio rhaglenni rheoli o bell micro-bit.

  2. Rheoli'r cerbyd crwydro o bell a defnyddio canfyddiad goleuo i nodi'r lleoliad terfynol cywir.

  3. Gwneud i'r cerbyd crwydro lywio'r ddrysfa'n ymreolus wrth anfon data at y gweithredwr.

Adborth a dderbyniwyd


Diolch yn fawr am ein helpu i godio ein robot. Roedd y sesiynau ar Teams yn ddefnyddiol iawn. Cawsom ni lawer o hwyl - Disgybl


Diolch am ein helpu ni gyda'n robotiaid. Cawsom lawer o hwyl yn eu gwneud nhw a'u codio nhw. Roedd y sesiynau gyda chi ar Teams yn hwyl ac rwy'n siŵr ein bod ni wedi dysgu llawer iawn - Disgybl


Diolch am ein dysgu ni sut i wneud y robotiaid hyn a'r codio sylfaenol. Rydyn ni mor ddiolchgar am yr holl sesiynau ar Teams a all brofi'n ddefnyddiol yn y dyfodol. Roedd cael y gwersi hyn gyda chi yn gymaint o hwyl - Disgybl


Diolch am bopeth. Fyddai'r prosiect ddim wedi bod yn bosibl hebddoch chi. Mwynhaodd y plant sesiwn heddiw'n fawr ac maen nhw'n edrych ymlaen at yr her o osod popeth at ei gilydd i orffen eu robotiaid - Athro