Gweithdai Scratch

English

Gweithdai Scratch

Dyma weithdy i ddefnyddio rhaglenni bloc yn Scratch (sef ap sy'n rhad ac am ddim i'w osod ar y bwrdd gwaith neu i'w ddefnyddio mewn porwr) i greu animeiddiadau ac/neu gemau.

Dyma enghraifft o'r math o gemau y gellir eu gwneud yn Scratch (wedi'u codi o'n gweithdy ar-lein Pêl Rodli).

Dewiswch gyflymder a gwasgwch y bylchwr (spacebar) i ddechrau'r demo.

I gael sgwrs neu archebu'r gweithdy hwn neu unrhyw un o'n gweithdai eraill, cysylltwch â Tally Roberts

Yr offer rydym yn ei ddarparu

Ynghyd â swyddog cyflwyno a chyflwyniad PowerPoint, mae gennym 15 gliniadur ar gael gyda meddalwedd Scratch wedi'i gosod arnynt yn barod.

Beth sydd angen i chi ei ddarparu

Rydym angen sgrin gyflwyno fawr neu daflunydd ar gyfer y PowerPoint.

Rydym yn argymell y dylid gwneud yr ymarferion hyn mewn ystafell gyfrifiaduron sydd ag o leiaf un cyfrifiadur rhwng dau ddysgwr. Gallwn gyflenwi gliniaduron os nad oes cyfleusterau o'r fath ar gael.

Hyd y gweithdy

Mae'r sesiynau hyn yn para o leiaf 60 munud.

Gan ein bod yn tueddu i fireinio'r cynnwys yn dibynnu ar amcanion eich prosiect, efallai y bydd angen mwy nag un sesiwn.

Grwpiau oedran

Gan fod y rhaglen hon yn defnyddio rhaglennu bloc syml, rydym yn cynnig y rhain i flynyddoedd 4 i 9 (sef 8-13 oed).

I blant rhwng 5 a 7 oed, gallwn gynnig fersiwn symlach o'r gweithdai hyn gan ddefnyddio Scratch Jr.

Sgrinlun o Scratch Jr:

Sgrinlun o Scratch Jr.

Cysylltiad â gweithdai eraill.

Gall y rhain fod yn sesiynau unigol ar eu pennau eu hunain, neu gallent fod yn rhan o gyfres i gefnogi prosiect.

Rydym wedi gweld bod y rhain yn helpu i arwain at sesiynau rhaglennu bloc eraill, fel ein gweithdai Turtle Blocks a Lego Mindstorms.

Mae gweithdai rhaglennu ychwanegol yn JavaScript, Python ac Arduino C yn cael eu datblygu a allai fod o ddiddordeb i'r rhai sy'n dymuno mynd y tu hwnt i ieithoedd bloc.

Gofynion cynnal yn rhithwir

Sgrin gyflwyno fawr neu daflunydd gyda Teams neu Zoom wedi'i osod ar gyfer cynadledda fideo.

Digon o gyfrifiaduron i gael o leiaf un rhwng pob dau ddysgwr, gyda mynediad i'r rhyngrwyd i rannu ffeiliau Scratch i gael cymorth o bell.

Fel dewis arall, mae gennym hefyd ganllawiau cam wrth gam ar gyfer gwneud Gêm Gofod a Gêm Pêl Rodli yn defnyddio Scratch.

Mae gennym hefyd Lyfr Gwaith Animeiddio Scratch ar gael.