Dyma weithdy ar ddefnyddio rhaglennu bloc i dynnu llun siapiau a phatrymau penodol. Mae hyn yn dysgu am raglennu a geometreg.
Mae'r gweithdy hwn yn defnyddio rhaglen o'r enw Turtle Blocks sy'n rhad ac am ddim ac ar gael mewn porwr, wedi'i hysbrydoli gan logos.
I gael sgwrs neu i archebu'r gweithdy hwn neu unrhyw un o'n gweithdai eraill, cysylltwch â Tally Roberts
Ynghyd â swyddog cyflwyno a chyflwyniad PowerPoint, rydym hefyd yn darparu cardiau heriau wedi'u lamineiddio i'r dosbarth.
Mae gennym hefyd gasgliad dosbarth o 20 gliniadur ar gael os oes angen.
Mae angen mynediad arnom at sgrin gyflwyno fawr neu daflunydd ar gyfer ein cyflwyniadau.
Os ydych chi'n defnyddio eich cyfrifiaduron eich hun, bydd angen cyswllt gwe i ddefnyddio meddalwedd Turtle Blocks yn y porwr, neu gyswllt USB i redeg fersiwn all-lein y gallwn ni ei ddarparu.
Rydym yn argymell o leiaf 60 munud ar gyfer y gweithdy hwn.
Mae'r gweithdy hwn wedi'i dargedu at flynyddoedd 5 i 9 (sef 9-13 oed).
Mae gwahaniaethu yn digwydd ar ffurf haenau ym mhob her. Po uchaf yw'r haen, yr anoddaf ydyw.
Nid yw'n angenrheidiol bod gan gyfranogwyr brofiad blaenorol mewn rhaglennu bloc, fodd bynnag, byddem yn argymell sesiwn ragarweiniol o flaen llaw ar Scratch neu Micro:Bits.
Rydym ni wedi cynnig y gweithgaredd hwn fel rhan o sesiwn fwy o faint wedi'i chyfuno â'n sgwrs "Beth yw Robot" a'n gweithgaredd "Robot Dynolffurf".
Mae ein gweithdy Mathemateg Chwilfrydig ar gael hefyd y gellid ei ddefnyddio i ategu elfen geometreg y gweithgaredd hwn.
Gallwn gynnal y gweithdy hwn o bell drwy Teams neu Zoom wedi'u gosod ar sgrin fawr neu daflunydd sydd â gwe-gamera a meicroffon.
Gellir sicrhau bod copïau digidol o'r taflenni ar gael i chi eu hargraffu cyn y sesiwn, neu gallwn eu lanlwytho i dudalen we lle gall y myfyrwyr eu gweld yno.
Y lleoliad gorau ar gyfer hyn fyddai ystafell gyfrifiaduron sydd ag o leiaf un peiriant rhwng dau ddysgwr.
Rydym hefyd yn cynnig pecyn adnoddau ystafell ddosbarth Turtle Blocks yn rhad ac am ddim y gellir ei lawrlwytho o'n siop TES.
Rydym bob amser yn hapus i fireinio ein gweithdai i anghenion neu achlysuron penodol. Er enghraifft, gwnaethom ryddhau gweithdy ar-lein yn defnyddio Turtle Blocks i dynnu llun blodau ar gyfer Diwrnod Santes Dwynwen a Sant Ffolant.