Mae'r Micro:Bit yn gyfrifiadur addysgol maint poced sydd wedi'i gynhyrchu gan y BBC er mwyn helpu i ddatblygu sgiliau codio a STEM o oedran ifanc.
Nod y gweithdy hwn yw dangos sut y gellir ei ddefnyddio mewn arbrofion ffiseg.
I gael sgwrs neu i archebu'r gweithdy hwn neu unrhyw un o'n gweithdai eraill, cysylltwch â Tally Roberts
Cadwch mewn cof y gallai cyfyngiadau Covid-19 neu waith addasu ar yr offer effeithio a ydynt ar gael ai peidio.
Mae gennym gasgliad o 30 Micro:Bit (fersiwn 2), ynghyd â chyflenwadau pŵer a cheblau lawrlwytho sydd ar gael ar gyfer gweithdai a gweithgareddau.
Os oes angen cyfrifiaduron, mae gennym 20 gliniadur ar gael sydd â'r rhaglenni angenrheidiol wedi'u gosod arnynt yn barod (nid oes angen rhyngrwyd).
Mae'r gweithdy hwn yn cynnwys Cyflwyniad PowerPoint a thaflenni wedi'u lamineiddio.
Sgrin/taflunydd i ni ddangos ein cyflwyniad arno.
Os ydych chi'n defnyddio eich cyfrifiaduron eich hun, yna mae angen cysylltiad â'r rhyngrwyd (oni bai bod meddalwedd eisoes wedi'i gosod i'w defnyddio all-lein).
Bydd angen trafodaeth ymlaen llaw i benderfynu pa arbrofion a gaiff eu cynnal fel rhan o'r gweithdy hwn. Bydd pennu hynny hefyd yn rhoi modd i ni weld pa anghenion offer a darpariaeth arall sydd eu hangen.
Mae hwn yn sesiwn 60 munud.
Gellir ychwanegu sesiynau ymestyn sy'n fyrrach ar gyfer pynciau arbrawf ychwanegol.
Mae gennym ystod o arbrofion sy'n addas ar gyfer blynyddoedd 5-11 (9-16 oed) yn defnyddio Micro:Bit y BBC a rhaglennu bloc.
Gellir addasu'r rhain hefyd ar gyfer arbrofion TGAU ar gais.
Gall hwn fod yn sesiwn ar ei ben ei hun, yn rhan o gyfres fechan o arbrofion, neu'n rhan o gyfres STEM fwy o faint.
Mae gennym weithdy Cyflwyniad i Micro:Bit ar gyfer dysgwyr sydd heb unrhyw brofiad, neu ychydig iawn o brofiad, o ddefnyddio rhaglennu yn seiliedig ar flociau.
Mae'r iaith raglennu a ddefnyddir hefyd yn debyg iawn i'r iaith a ddefnyddir yn ein cynigion Scratch a Turtle Blocks.
Os ydych chi am wneud gweithgareddau eraill wedyn sy'n seiliedig ar arbrofion, rydym hefyd yn cynnig gweithdy Gwyddoniaeth Lliwiau.
Rydym yn gobeithio datblygu gweithdai eraill yn y dyfodol sy'n ymgorffori arbrofion yn y cartref ac yn y labordy.
Rydym yn hapus i gynnig cymorth o bell ar gyfer y gweithdy hwn, er bod hynny'n dibynnu arnoch chi'n gallu cyflenwi'r offer angenrheidiol a restrir isod.
Mae fersiwn fwyaf newydd Micro:Bit y BBC yn meddu ar nifer fawr o synwyryddion sydd wedi'u hadeiladu i mewn iddo a gall y rhain fwydo data yn uniongyrchol i gyfrifiadur lle gellir ei arddangos mewn amser real.
Bydd pob sesiwn yn dechrau drwy ddangos sut y gellir rhaglennu Micro:Bit a'i ddefnyddio i gofnodi data gwyddonol. Yna rydym yn cynnig mireinio'r arbrawf i ba bynnag bwnc gwyddoniaeth o'ch dewis.
Mae arbrofion enghreifftiol yn cynnwys gatiau cyflymder, cofnodi cyflymiad (perffaith ar gyfer rhoi parasiwt ar brawf), mesurydd a rheolydd tymheredd, monitro sain, mesur dargludedd gwahanol ddefnyddiau a phrofi grym.