Beth yw ffug newyddion? Pryd ddechreuodd e? Sut gallwn ni sylwi arno? Pam ei fod yn broblem?
Dyma gyflwyniad rhyngweithiol yn edrych ar y cynnydd sydyn mewn darlledu ffug newyddion.
I gael sgwrs neu i archebu'r gweithdy hwn neu unrhyw un o'n gweithdai eraill, cysylltwch â Tally Roberts.
Rydym yn darparu swyddog cyflwyno, cyflwyniad PowerPoint a thaflenni wedi'u lamineiddio.
Sgrin gyflwyno neu daflunydd ar gyfer y PowerPoint.
Deunydd ysgrifennu i'r dysgwyr os dymunwch iddynt gymryd nodiadau.
Mae'r sesiwn hwn yn para 60 munud.
Rydym yn argymell y gweithdy hwn ar gyfer blynyddoedd 10 i 13 (sef 14-18 oed) gan mai dyma'r cyfnod ar ôl iddynt gyrraedd oedran cydsyniad digidol.
Gall hwn fod yn sesiwn ar ei ben ei hun, neu gallai fod yn rhan o gyfres ynghylch diogelwch ar y rhyngrwyd, diogelu a dinasyddiaeth.
Rydym yn argymell ein gweithdy mwy generig ar Ddiogelwch Ar-lein fel cyflwyniad.
Os dymunwch gael rhagor o sesiynau i sôn am unrhyw un o'r agweddau eraill ar ddinasyddiaeth ddigidol, yna cysylltwch â ni.
Taflunydd neu sgrin gyflwyno ar gyfer Teams neu Zoom sy'n cysylltu â seinyddion, meicroffon a gwe-gamera.
Bydd unrhyw daflenni yn cael eu hanfon trwy e-bost ymlaen llaw i'w hargraffu.
Mae modd cael rhywfaint o hyblygrwydd i gynnwys y sesiwn hwn yn dibynnu a oes gennych ffocws penodol mewn golwg. Er enghraifft, pe dymunech edrych yn agos ar effaith ffug newyddion ar ymatebion i Covid-19 a'i frechiadau. Fel arall, gallwn ganolbwyntio'r sesiwn yn fwy tuag at elfennau ymarferol canfod ffug newyddion ar-lein.
Ar gyfer grwpiau mwy creadigol sydd â diddordebau yn y theatr a'r cyfryngau, gallwn ganolbwyntio'n llwyr ar yr hyn y gallwn ei ddysgu am effeithiau ffug newyddion o'r darllediad radio enwog o 'War of the Worlds' yn America. Bydd hyn yn cynnwys darparu copi o'r sgript wreiddiol i'w hailberfformio.
Rydym hefyd yn cynnig opsiwn gweithgaredd sy'n cynnwys gwneud eu ffug newyddion eu hunain i ddangos pa mor hawdd y gall unrhyw un greu pethau o'r fath.