Sut i gadw eich hun a phobl eraill yn saff ac yn ddiogel ar-lein.
Cyflwyniad rhyngweithiol ynghylch faint i'w rannu ar-lein a beth i'w rannu.
I gael sgwrs neu i archebu'r gweithdy hwn neu unrhyw un o'n gweithdai eraill, cysylltwch â Tally Roberts.
Rydym yn darparu swyddog cyflwyno ynghyd â chyflwyniad PowerPoint a thaflenni wedi'u lamineiddio.
Bydd angen cyfrifiadur sydd wedi'i gysylltu â thaflunydd neu sgrin gyflwyno ar gyfer sleidiau PowerPoint.
Mae'r sesiwn hwn yn para 45 i 60 munud.
Gan fod y rhyngrwyd yn adnodd gwych i ddysgwyr trwy gydol yr ysgol uwchradd, gallwn amrywio'r cynnwys yn ôl oedran.
Ar gyfer blynyddoedd 7-9 (sef 11-13 oed) rydym yn canolbwyntio mwy ar ddibynadwyedd gwybodaeth ar-lein a sut i chwilio'n ddiogel ac yn gywir.
Ar gyfer blynyddoedd 10-13 (sef 14-18 oed) mae'n ymwneud yn fwy â rhannu gwybodaeth ar y cyfryngau cymdeithasol gan eu bod wedi cyrraedd oedran cydsyniad digidol.
Mae hwn yn gweithio'n dda fel gweithdy cyffredinol ar ei ben ei hun sy'n sôn am nifer o faterion diogelwch gwahanol ar-lein.
Rydym hefyd yn cynnig sesiynau sydd wedi'u targedu'n fwy penodol, fel ein gweithdy ffug newyddion.
I gael unrhyw wybodaeth arall ynghylch meysydd penodol mynd ar-lein a diogelwch ar-lein, cysylltwch â ni.
Fel y rhan fwyaf o'n gweithdai, rydym yn hapus i gynnig cymorth o bell trwy offer cynadledda Teams neu Zoom. Ar gyfer hwn bydd angen i chi ddarparu taflunydd neu sgrin gyflwyno fawr sydd â seinyddion, meicroffon a gwe-gamera.
Anfonir unrhyw daflenni yn electronig ymlaen llaw i'w hargraffu ar gyfer y sesiwn.
Neu, rydym yn darparu pecyn adnoddau i'r ystafell ddosbarth yn rhad ac am ddim i athrawon ar TES: Rhannu Gwybodaeth Ar-lein.
Fel y soniwyd uchod, gallwn fireinio'r sesiwn yn fwy tuag at ddefnyddio'r rhyngrwyd fel adnodd addysgol, neu tuag at ddiogelwch ar-lein ar y cyfryngau cymdeithasol.