Darganfod Planedau Allheulol

English

NID YW Y GWEITHDY HWN AR GAEL AR HYN O BRYD

Darganfod Planedau Allheulol

Sut gallwn ni ddefnyddio sbectrwm seren i ddarganfod ac archwilio planedau allheulol (exoplanets)?

Mae'r sesiwn hon wedi'i chynllunio i edrych ar beth yw planedau allheulol ac i astudio un dull o'u canfod.

I gael sgwrs neu i archebu'r gweithdy hwn neu unrhyw un o'n gweithdai eraill, cysylltwch â Tally Roberts.

Yr offer rydym yn ei ddarparu

Ar gyfer y gweithdy hwn rydym yn darparu swyddog cyflwyno, cyflwyniad PowerPoint, a thaflenni wedi'u lamineiddio (a marcwyr dileu sych).

Beth sydd angen i chi ei ddarparu

Taflunydd neu sgrin gyflwyno y gallwn ei ddefnyddio i ddangos ein cyflwyniad.

Hyd y gweithdy

Mae'r sesiwn hwn yn para 45-60 munud.

Grwpiau oedran

Gan fod y gweithdy hwn yn adeiladu ar wybodaeth TGAU Ffiseg am blanedau allheulol a nodi elfennau o Cemeg, rydym yn argymell hwn ar gyfer blynyddoedd 11-13 (sef 15-18 oed).

Cysylltiad â gweithdai eraill

Yr un fath â llawer o'r gweithdai a gynigiwn, gellir cynnal hwn fel sesiwn ar ei ben ei hun neu fel rhan o gyfres.

Rydym yn cynnig gweithdy ar Archwilio Planedau sy'n gyflwyniad da ar gyfer y gweithgaredd hwn.

Rydym wrthi'n gweithio ar hyn o bryd ar ddatblygu profiadau seryddiaeth newydd gan ddefnyddio ein planetariwmau.

Gofynion cynnal yn rhithwir

Fel y rhan fwyaf o'n gweithdai, rydym yn hapus i gynnig cymorth o bell trwy offer cynadledda Teams neu Zoom.

Byddwn yn anfon pob taflen trwy e-bost cyn y sesiwn i chi eu hargraffu yn barod at y sesiwn.

Gobeithiwn allu cynnig fersiwn o'r sesiwn hon yn fuan ar ein Hwb Allgymorth ac/neu siop TES.