Cyflwyniad ar blanedau sydd o fewn a thu hwnt i gysawd yr haul.
Ym Mhrifysgol Aberystwyth rydym ni wedi cael y fraint o fod yn rhan o deithiau ymchwil planedol cyfredol a theithiau yn y gorffennol.
Nod y sesiwn hon yw rhannu gwybodaeth am y planedau eraill yng nghysawd yr haul a'r ffordd y gallwn ni erbyn hyn ddod o hyd i blanedau sydd yn bellach i ffwrdd.
I gael sgwrs neu i archebu'r gweithdy hwn neu unrhyw un o'n gweithdai eraill, cysylltwch â Tally Roberts
Ar gyfer y gweithdy hwn, darparwn swyddog cyflwyno a chyflwyniad PowerPoint.
Sgrin gyflwyno neu daflunydd y gallwn ei ddefnyddio i ddangos y cyflwyniad.
Mae'r sesiynau hyn yn para 30-60 munud.
I fyfyrwyr cynradd a CA3 (11-13 oed) rydym yn darparu taith o amgylch cysawd yr haul.
Bydd y gweithdai i'r rhai sydd ar lefel TGAU a Lefel A yn fwy manwl ac yn mynd â hwy i blanedau tu hwnt i gysawd yr haul.
Yn yr un modd â'n cynigion eraill, mae modd cyflwyno'r sesiwn hon ar ei phen ei hun neu fel rhan o gyfres.
Rydym yn cynnig gweithdy ar Darganfod Planedau Allheulol, sy'n estyniad ardderchog i ddysgwyr hŷn.
Mae cyflwyniad ar daith ymchwil ExoMars hefyd ar gael sydd wedyn yn plethu i'r gweithdy ar Wyddoniaeth Lliw.
Ar hyn o bryd, rydym ni'n gweithio ar ddatblygu profiadau seryddiaeth newydd sy'n defnyddio ein planetariwmau.
Fel gyda mwyafrif ein gweithdai, rydym yn hapus i gynnig cymorth o bell drwy feddalwedd fideo-gynadledda Zoom neu Teams.
Opsiwn arall yw ein Ffeil-O-Ffaith y Planedau gyda chwestiynau sydd ar gael ar ein Hwb Allgymorth neu sydd ar gael i'w lawrlwytho am ddim drwy ein siop TES.
Rydym ni wedi cynnal fersiwn fer o'r sgwrs hon yn y gorffennol yng Nghanolfan Ymwelwyr Cwm Elan tu mewn i Blanetariwm StarLab.
Yn y gorffennol, rydym ni hefyd wedi symud allan i'r awyr agored i gynnal gweithgaredd a'r dysgwyr yn dal modelau graddfa sy'n cynrychioli'r haul a'r planedau. Mae hon yn ffordd ddifyr i geisio deall y pellterau a'r meintiau enfawr.