Profiadau Planetariwm

English

Profiadau Planetariwm

Rydym yn ffodus o gael dau blanetariwm ar gael fel un ai'r prif adnodd neu gefndir addas ar gyfer ein gweithdai seryddiaeth.

I gael sgwrs neu i archebu'r gweithdy hwn neu unrhyw un o'n gweithdai eraill, cysylltwch â Tally Roberts

Yr offer rydym yn ei ddarparu

Rydym yn cynnig dau swyddog cyflwyno ar gyfer y gweithdy hwn, cyflwyniadau ar ffurf PowerPoint, taflunyddion a dewis o blanetariwm.

Beth mae angen i chi ei ddarparu

Lle digon mawr o dan do gyda chyflenwad trydan er mwyn gallu llenwi'r gromen ag aer yn ddiogel heb iddi ddod i gyswllt â wal na ffitiadau'r nenfwd. Mae angen i'r llawr fod yn hollol wastad hefyd a dylid cael gwared ag unrhyw wrthrychau neu ffitiadau sydd ag ymylon garw neu siarp. Rydym ni'n hapus i ddod am ymweliad i'r lleoliad ymlaen llaw er mwyn gwneud yn siŵr ei fod yn addas.

Ar sail adborth o'r sesiynau blaenorol, byddem hefyd yn argymell bod clustogau neu gotiau wedi eu plygu ar gael i'r rhai sy'n mynychu gael eistedd arnynt.

Gofynnwn hefyd am wybodaeth am unrhyw anghenion hygyrchedd i'r rhai sydd ag anableddau corfforol er mwyn i ni allu trefnu a chynllunio mynediad addas i'r planetariwmau.

Hyd y gweithdy

Gall y sesiynau hyn bara rhwng 20 a 60 munud, yn ddibynnol ar ba gyflwyniad(au) sydd wedi eu dewis.

Os oes gennych chi nifer fawr o fynychwyr, byddwch yn ymwybodol y bydd angen i ni gynnal amryfal sesiynau o fewn yr amser sydd ar gael gan mai dim ond lle i nifer penodol sydd ynddynt ar yr un pryd (mae'r lle sydd ar gael yn dibynnu ar ba blanetariwm sy'n cael ei defnyddio).

Grwpiau Oedran

Mae'r planetariwm yn adnodd anhygoel sy'n golygu y gallwn ddarparu ar gyfer pob oedran. Fodd bynnag, dylech fod yn ymwybodol bod y planetariwm yn dywyll iawn yn ystod rhannau o'r gweithgareddau, a all fod yn broblem i blant ifanc.

Cysylltiad â gweithdai eraill

Mae gennym ni daflunydd ychwanegol yn y planetariwmau er mwyn cyflwyno sleidiau PowerPoint o unrhyw un o'n gweithdai amrywiol.

Mae'r gweithdai'n cynnwys sgyrsiau Darganfod Planedau Allheulol a Thaith Ymchwil Blanedol.

Cysylltwch â ni os hoffech chi ein gweld yn rhoi cyflwyniad ar unrhyw bwnc penodol cysylltiedig â'r gofod.

Amrywiadau ar y gweithdy hwn

Fel y crybwyllwyd eisoes, rydym yn hyblyg iawn gyda'r sgyrsiau a ddarperir o fewn y planetariwmau.

Yr ychwanegiad diweddaraf yw ein fersiwn ddigidol, felly mae modd i ni gynnig profiadau mwy dwys megis glanio ar y lleuad, teithio dros dirwedd Mawrth neu hedfan drwy gysawd yr haul.

Rydym ni hefyd yn cynnig sesiynau sy'n ailadrodd drwy'r dydd mewn lleoliadau a digwyddiadau cyhoeddus.