Her Peirianneg Lander

English

Her Peirianneg Lander

Gweithgaredd i ddylunio a chreu system sy'n galluogi glanio BBC Micro:Bit yn ddiogel o uchder.

Yn ystod y profion, mae mesurydd cyflymu y BBC Micro:Bit yn anfon data byw sy'n rhoi mesuriadau gweladwy o'u llwyddiant i'r dysgwyr.

I gael sgwrs neu archebu hwn neu unrhyw un o'n gweithdai eraill, cysylltwch â Tally Roberts

Yr offer rydym yn ei ddarparu

Mae gennym set o 30 BBC Micro:Bit fersiwn 2 gyda chyflenwadau pŵer a cheblau lawrlwytho ar gael ar gyfer gweithdai a gweithgareddau.

Un o'n unedau Micro:Bit V2 gyda chebl a phecyn batri

Mae'r gweithdy hwn yn cynnwys cyflwyniad PowerPoint, a meddalwedd casglu data byw (Makecode).

Beth sydd angen i chi ei ddarparu

Deunyddiau crefft - rydym yn argymell bod myfyrwyr yn casglu cardbord, papur sgrap, cynwysyddion bach, bagiau siopa, ffoil /clingfilm, a deunydd pacio o'u hailgylchu cartref.

Sgrin/taflunydd ar gyfer cyflwyno.

Mae cysylltiad rhyngrwyd yn ddymunol, ond nid yw'n hanfodol.

Hyd y gweithdy

Ar gyfer grŵp o hyd at 30, mae'r gweithgaredd hwn rhwng 30 a 45 munud, yn dibynnu ar nifer y timau.

Grwpiau oedran

Mae data'r mesurydd cyflymu yn gofyn am rywfaint o ddealltwriaeth o gyflymu a fydd o gymorth wrth ddadansoddi'r canlyniadau. Bydd angen hefyd i'r rhai sy'n cymryd rhan fedru darllen graffiau llinell yn gyflym ac yn effeithlon.

Rydym yn argymell hwn i ddysgwyr dros 11 oed.

Cysylltiad â gweithdai eraill

Rydym yn aml yn cynnwys fersiwn fyrrach o'n gweithdy Cyflwyno Micro:Bits cyn mynd ati i gyflwyno'r her. Mae hyn yn ymestyn gofynion amser y gweithdy yn gyfan gwbl i 90 munud.

Mae'r Micro:Bit hefyd yn ddyfais wych ar gyfer amrywiaeth o brosiectau STEM fel rydym ni'n ei ddangos yn ein gweithdai Labordy Micro:Bit.

Byddem hefyd yn awgrymu, oherwydd cysylltiadau'r gweithdy hwn â meysydd archwilio'r gofod a ffiseg, y dylid ystyried ein sesiwn: Gwyddoniaeth Lliwiau.

Gofynion cynnal yn rhithwir

Bydd angen o leiaf 2 BBC Micro:Bit gyda phecynnau batri a cheblau i lawrlwytho. Bydd y rhaglenni angenrheidiol ar gyfer y profion yn cael eu darparu.

Sgrin cyflwyno neu daflunydd â chyswllt â Teams i gyflwyno'r deunydd.

Neu mae gennym hefyd amrywiaeth o adnoddau (taflenni gwaith/canllawiau fideo/heriau) ar ein gwe-dudalen Micro:Bits i Addysgwyr.