Heriau Lego

English

Her Peirianneg Lego

Dylunio ac adeiladu peiriannau Lego sy'n gweithio er mwyn cwblhau amrywiaeth o dasgau.

I drafod neu archebu hwn neu unrhyw rai o'n gweithdai eraill, cysylltwch â Tally Roberts

Yr offer rydym yn ei ddarparu

Rydym ni'n darparu'r swyddog cyflwyno a 10 cit Lego EV3 neu 15 Lego NXT Mindstorm.

Ar gyfer sesiynau estynedig sy'n cynnwys rhaglennu yn ogystal ag adeiladu, gallwn hefyd ddarparu 15 gliniadur ar gyfer y gweithdy â'r feddalwedd rhaglennu Lego swyddogol wedi'i osod ymlaen llaw.

Mae ein hunedau Lego EV3 wedi'u hadeiladu ymlaen llaw mewn gosodiad diofyn o'r enw Ab3rRov3r, fel y dangosir isod. Mae'r rhain yn rhoi inni'r hyblygrwydd i edrych ar ddilyn llinellau a/neu ganfod rhwystrau fel rhan o'r heriau a osodir.

Ein huned  EV3 addysgol

Mae gan yr unedau LEGO NXT sydd ar gael ddetholiad gwahanol o synwyryddion (synhwyrydd golau yn lle synhwyrydd lliw ac uwchsain yn lle is-goch).

Ein huned adeiladu NXT addysgol

Nodwch nad ydym ni bellach yn cynnig sesiynau rhaglennu yn defnyddio'r Unedau NXT.

Beth sydd angen i chi ei ddarparu

Ardal o gwmpas desg sy'n ddigon mawr i gynnwys timau o hyd at 5 aelod gyda lle i adeiladu, a lle ar y llawr ar gyfer heriau'r robotiaid.

Sgrin/taflunydd ar gyfer cyflwyno heriau a gwybodaeth bwysig.

Hyd y gweithdy

Argymhellir 2 awr ar gyfer cyfres o dair her.

Grwpiau oedran

Rydym ni'n argymell y gweithdai hyn ar gyfer blynyddoedd 5-13 (oed 10-18).

Cysylltiad â gweithdai eraill

Mae gennym sesiwn rhaglennu Lego Mindstorms py gellir ei haddasu i'r heriau dan sylw.

Er y gall hwn fod yn weithdy annibynnol, rydym ni'n argymell cyflwyno disgyblion iau i roboteg drwy ein sesiwn 'Beth yw Robot?'.

I fyfyrwyr hŷn, rydym ni'n argymell cysylltu hwn mewn cyfres gyda'n trafodaeth dan arweiniad ar Deallusrwydd Artiffisial.

Gofynion cynnal yn rhithwir

Yn anffodus, nid yw'r gweithdy hwn ar gael i'w gynnal yn rhithwir.

Amrywiadau ar y gweithdy hwn

Gydag amrywiaeth o dasgau ar gael, mae llawer o bosibiliadau o fewn y sesiwn hon.

Gemau Olympaidd Robot

Cynhaliom ein Gemau Olympaidd Robot cyntaf, a gefnogwyd gan Gyngor Sir Ceredigion, ym mis Mehefin 2023, fel rhan o ddathliadau ein Wythnos Roboteg.

Roedd 300 o ddisgyblion ysgol gynradd yn bresennol o bob rhan o'n sir. Cynhaliwyd y digwyddiad dros chwe sesiwn o fewn tri diwrnod fel y bo 10 tîm yn gallu cymryd rhan ym mhob un.

Roedd tîm buddugol 2023 yn dod o Ysgol Gynradd Aberaeron.