Cylchedau Tinkercad

English

Cylchedau Tinkercad

Meddalwedd mewn-borwr am ddim yw Tinkercad sy'n cynnwys efelychu a rhaglennu cylched mewn amgylchedd ystafell ddosbarth ar-lein.

Nod y gweithdy hwn yw addysgu am gylchedau trydanol a/neu gylchedau electronig rhaglenadwy.

Mae'r elfen cylchedau trydanol yn edrych ar sut mae cylched yn gweithio, ac yn rhoi sylw i gerrynt, foltedd, ymwrthedd a Deddf Ohm gan ddefnyddio efelychydd cywir.

Ar gyfer cylchedau electronig, rydym yn archwilio mwy o'r cydrannau sydd ar gael, gan ychwanegu micro-reolwyr (Micro:Bit a / neu Arduino), a rhaglennu.

I drafod neu archebu hwn neu unrhyw rai o'n gweithdai eraill, cysylltwch â Tally Roberts

Yr offer rydym yn ei ddarparu

Gallwn ddarparu 15 o liniaduron ar gyfer y gweithdy hwn. Fodd bynnag, mae angen cysylltiad rhyngrwyd i ddefnyddio'r feddalwedd. Rydym yn tueddu i wahodd grwpiau i Brifysgol Aberystwyth ar gyfer y sesiwn hon os nad oes ganddynt gyfrifiaduron addas yn eu lleoliad arferol.

Mae'r gweithdy hwn yn cynnwys cyflwyniad PowerPoint a thaflenni wedi'u lamineiddio.

Beth sydd angen i chi ei ddarparu

Sgrin/taflunydd ar gyfer y cyflwyniad.

Os ydych chi'n defnyddio eich cyfrifiaduron eich hun, mae angen cysylltiad rhyngrwyd a phorwr.

Hyd y gweithdy

Mae angen 30 - 60 munud i addysgu'r cynnwys am gylchedau trydanol (gan ddibynnu a yw'r disgyblion wedi astudio'r cysyniadau hyn yn y dosbarth o'r blaen).

Ar gyfer y pwnc rhaglennu cylchedau electronig, gallwn ddarparu sesiwn gychwynnol sylfaenol mewn 30 munud ac yna adeiladu ar hynny, yn dibynnu ar faint o amser ychwanegol sydd ar gael.

Grwpiau oedran

Mae'r sesiynau hyn wedi'u cynllunio ar gyfer disgyblion CA3 a hŷn (y rhai dros 11 oed).

Maen nhw wedi'u cynllunio ar gyfer dysgwyr sy'n astudio ffiseg, cyfrifiadureg a pheirianneg.

Cysylltiad â gweithdai eraill

Mae gennym weithdy o'r enw Cyflwyniad i Micro:Bits y gellir ei gysylltu â'r elfen cylchedau rhaglenadwy ar gyfer dysgwyr nad oes ganddynt unrhyw brofiad, neu ychydig o brofiad yn unig.

Fel arall, rydym yn darparu canllaw ar-lein Rhaglennu Micro:Bit BBC ar gyfer Addysgwyr a phecynnau gweithgareddau i'w gwneud yn y dosbarth.

Mae meddalwedd Tinkercad yn cynnwys adnoddau dylunio 3D hefyd. Gallwn gynnig sesiwn ar ddylunio casin a / neu fodel ar gyfer cylchedau gorffenedig. Bydd manylion ar gyfer y gweithdy hwn ar gael ar ein dewislen gweithdai cyn bo hir.

Yn y dyfodol rydym yn gobeithio cynnig mynediad am ddim i addysgwyr at ein hadnoddau clwb STEM ar gyfer electroneg yn Tinkercad.

Gofynion cynnal yn rhithwir

Rydym yn hapus i gynnig cymorth o bell ar gyfer y gweithdy hwn, ond bydd hyn yn dibynnu ar sicrhau eich bod yn gallu cyflenwi'r cyfarpar angenrheidiol yn unol â'r rhestr isod:

Amrywiadau ar y gweithdy hwn

Mae gennym 10 pecyn electroneg sydd wedi'u defnyddio fel estyniad o'r gweithgaredd hwn. Mae dysgwyr wedi defnyddio'r hyn maen nhw wedi'i ddysgu yn yr efelychydd i greu cylchedau wedi'u rhaglennu cyflawn gan ddefnyddio micro-reolwr a bwrdd bara.

Cylched Adruino gan ddefnyddio nifer o gydrannau a bwrdd bara

Mae prosiectau blaenorol a phresennol a gefnogir trwy ddefnyddio cylchedau Tinkercad yn cynnwys systemau tŷ gwydr awtomataidd, paneli arddangos neomatrics, systemau cartref clyfar a dyfeisiau diogelwch cartref.