Prynu Micro:Bits
Os hoffech chi brynu Micro:Bits dyma rywfaint o wybodaeth am yr hyn sydd ar gael.
Y cyflenwr swyddogol ym Mhrydain yw Kitronik. Ar gyfer gwledydd eraill mae rhestr o'r cyflenwyr swyddogol ar adrab Buy ar wefan Micro:Bit.
Daw'r holl brisiau a restrir gan Kitronik ac roeddent yn gywir pan ysgrifennwyd hyn (26 Awst 2022)
Mae modd prynu'r byrddau, heb unrhyw ategolion, am £13.80 yr un
Daw'r pecynnau cychwyn hyn gyda bwrdd, cebl lawrlwytho (USB i micro-USB), 2 x batri AAA, pecyn batri, a chwdyn cynfas. Mae'r rhain yn costio £16.50 yr un.
Mae'r bocs clwb hwn yn cynnwys offer sy'n cyfateb i 10 pecyn cychwynnol (heb godenni cynfas). Mae hyn yn rhoi ychydig o ddisgownt am brynu swmp ac yn costio £162 fesul bocs clwb.
Cydrannau Cydweddol
Mae llawer o gydrannau a chitiau robot ar gael i'w defnyddio gyda'r BBC Micro:Bit. Dyma rai manylion am y rhai rydym ni wedi eu defnyddio'n llwyddiannus.
Mae'r holl brisiau a restrir yn cynnwys TAW ac roeddent yn gywir pan ysgrifennwyd hyn (26 Awst 2022)
Mae llawer o becynnau cydrannau/synwyryddion ar gael ar y farchnad at ddefnydd yn y cartref ac mewn addysg. Fodd bynnag, dylech fod yn ymwybodol y gall fod angen rhai addasiadau, yn bennaf rhoi gwifrau crocodeil yn lle cysylltiadau. Felly, gwnewch yn siŵr bod gennych chi sodr, haearn sodro, tiwbiau ffitio gwres, gwn gwres, a theclyn stripio gwifrau.

Canfuom fod Micro Servos SG90 9g yn gweithio gyda Micro:Bit, ond bod angen pŵer ychwanegol arnynt nad yw'r pecyn batri safonol yn ei ddarparu. Mae hyn yn golygu bod angen ei gysylltu â ffynhonnell pŵer trwy gebl USB i ficro-USB - i sicrhau 3.6V yn lle 3V. Rhybudd: Gall hyn leihau hyd oes y Micro:Bit.
Dyma un o'r pecynnau robot gorau sydd ar gael.
Mae'r Rover yn becyn cymhleth sy'n cynnwys crogiant siglog, 6 olwyn a yrrir yn unigol â modur, synhwyrydd uwwchsonig, 5 serfo a phecyn batri. Mae'r cit angen ei roi at ei gilydd ac nid yw'n cynnwys y Micro:Bit na'r batris (4 x AA).
Mae estyniad bloc ar gael ar gyfer y pecyn hwn gan symleiddio'r broses raglennu ar gyfer y gwahanol gydrannau dan sylw.
Gellir prynu'r pecyn gan 4tronix am £138 (gan gynnwys TAW).
Rydym yn ffodus bod y pecyn hwn ar gael ar gyfer ein gwaith allgymorth, ac fe'i defnyddir i wneud cysylltiad rhwng rhaglennu ac ymchwil gofod, neu i ddysgu sut i ddefnyddio'r blociau radio i greu rheolaeth bell.
Mae hwn yn becyn addysgol mwy fforddiadwy sydd wedi'i gynllunio i dysgu am sut i osgoi rhwystrau rhaglennu a dilyn llinellau.
Mae'r pecyn yn cynnwys synhwyrydd uwchsonig, pecyn batri, a synwyryddion 4 RGB er mwyn dilyn llinell gywir. Nid yw'n cynnwys batris (3 x AAA) na Micro:Bit.
Gellir eu prynu am £30.70 (gan gynnwys TAW) gan The Pi Hut.
