Rasio'r Ddraig

English

Rasio'r Ddraig

Dyma weithdy sy'n mynd ati i ddechrau archwilio tebygolrwydd trwy gemau â dis.

Yn y sesiwn hon gwneir gêm rasio sylfaenol i archwilio sut y gall gwahanol gyfuniadau o ddis effeithio ar y chwarae.

I gael sgwrs neu i archebu'r gweithdy hwn neu unrhyw un o'n gweithdai eraill, cysylltwch â Tally Roberts.

Yr offer rydym yn ei ddarparu

Rydym yn darparu swyddog cyflwyno, deunyddiau addysgu a thempledi ar gyfer creu gêm rasio sylfaenol.

Beth sydd angen i chi ei ddarparu

Os ydych am gynnwys creu'r ddraig i'w rasio yn y gweithdy hwn, bydd angen i ddysgwyr gael mynediad at gerdyn, deunyddiau tynnu llun, siswrn, a thâp/glud.

Mae'n bosibl cael gweithdy sy'n canolbwyntio mwy ar debygolrwydd heb greu'r gêm, ar gyfer hyn rydym yn darparu marcwyr dileu sych i'w defnyddio ar gridiau gemau wedi'u lamineiddio.

Hyd y gweithdy

Mae'r sesiwn hwn yn 30 munud heb y gweithgarwch creu gêm, ac yn 60-90 munud gyda'r gweithgarwch hwnnw.

Grwpiau oedran

Mae dwy lefel o gymhlethdod i'r gweithdy hwn sydd wedi'i anelu at ddysgwyr blynyddoedd 4 i 9 (sef 8-13 oed). Mae'r gweithdy sylfaenol yn cyflwyno'r cysyniad o debygolrwydd, tra bod yr un lefel uwch yn cyflwyno matricsau tebygolrwydd.

Cysylltiad â gweithdai eraill.

Gellir cynnal hwn fel gweithdy ar ei ben ei hun. Neu gall fod yn ymarfer dechreuol da ar gyfer ein gweithdy Dis Annhrosaidd.

Gofynion cynnal yn rhithwir

Rydym yn hapus i gynnig cymorth o bell ar gyfer y gweithgaredd hwn a'i holl elfennau. Er mwyn i hyn weithio bydd angen i chi ddarparu sgrin fawr/taflunydd sydd â Teams neu Zoom arno, ac wedi'i gysylltu â seinyddion, meicroffon a gwe-gamera.

Anfonir templedi a gridiau gemau atoch trwy e-bost i'w hargraffu ymlaen llaw.

Rydym hefyd wedi sicrhau bod fersiwn o'r ymarfer hwn, gyda'i holl dempledi, ar gael ar ein Hwb Allgymorth - gweler Gêm Dis Rasio'r Ddraig.

Amrywiadau ar y gweithdy hwn

Byddwn yn fwy na pharod i addasu'r gweithdy tebygolrwydd i fod yn addas i amrywiaeth o wahanol ddisiau a gemau bwrdd.

Mae fersiwn fwy datblygedig o'r gweithdy hwn wrthi'n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd sy'n canolbwyntio ar debygolrwydd a rhesymeg yn Cluedo.