Gweithdy Roced

English

Gweithdy Roced

Cyflwyniad i rocedi gofod, cyn gweithgaredd i gynllunio ac adeiladu rocedi papur/cardiau.

Diweddglo'r gweithdy hwn yw profi'r rocedi gyda lansiwr aer cywasgedig er mwyn eu gyrru 5-10m i'r aer (yn ddibynnol ar y gwynt a'r lle sydd ar gael).

I drafod neu i archebu'r gweithdy hwn neu unrhyw rai o'n gweithdai, cysylltwch â Tally Roberts

Offer a ddarperir

Darparwn swyddog cyflwyno gyda chyflwyniad PowerPoint, fideos a'r lansiwr.

Beth sydd angen i chi ei ddarparu

Bydd arnom ni angen defnyddio sgrîn gyflwyno fawr neu daflunydd ar gyfer y cyflwyniad PowerPoint. Mae hwn yn cynnwys fideos, felly argymhellir seinyddion, ond nid ydynt yn hanfodol.

Bydd angen sicrhau bod deunyddiau crefft ac offer ar gael i fyfyrwyr.

Gellir rhoi'r cyflwyniad rhyngweithiol ac adeiladu'r rocedi mewn ystafell ddosbarth, ond mae gofyn bod allan mewn man agored mawr i ddefnyddio'r lansiwr.

Os nad yw'r tywydd neu'r lleoliad yn addas i ddefnyddio'r lansiwr yn ddiogel, bydd angen ystafell fawr dan do lle gellir taflu'r rocedi â llaw heb risg o anaf neu ddifrod (neuadd neu gampfa er enghraifft).

Hyd y gweithdy

Mae'r gweithdy hwn yn para 90-120 munud. Rydym wedi ei gynllunio fel bod modd i'r myfyrwyr gael egwyl cyn y lansio tra bod ein swyddog cyflwyno'n gosod ac yn profi'r offer.

Grwpiau oedran

Rydym yn amrywio'r cynnwys yn ddibynnol ar oedran ein cynulleidfa.

Ar gyfer blynyddoedd 4-6 (8-11 oed), byddwn yn edrych ar yr elfennau sylfaenol sy'n sicrhau llwyddiant roced. Yng Nghyfnod Allweddol 3 (11-14 oed) byddwn yn cynnwys y grymoedd sylfaenol sy'n gysylltiedig â lansio rocedi. Ar gyfer TGAU (11-14) byddwn yn addasu'r sgwrs yn unol â chwricwlwm ffiseg CBAC ar rocedi.

Dolenni i weithdai eraill

Mae hwn yn gweithio'n dda fel gweithdy ar ei ben ei hun neu fel rhan o gyfres.

Os ydych chi'n trefnu cyfres, argymhellwn eich bod yn ystyried y gweithdai canlynol:

Rydym hefyd yn darparu adnoddau dysgu'n rhad ac am ddim, gan gynnwys ffeil o ffeithiau am blanedau, drwy ein siop TES.

Gofynion cyflwyno rhithiol

Mae modd i ni roi'r cyflwyniad i ddosbarth neu grŵp dros Teams. Gallwn hefyd gefnogi athrawon/arweinwyr grŵp, i drefnu creu a phrofi'r rocedi (a fydd yn digwydd â llaw yn hytrach na gyda'r lansiwr aer cywasgedig).

Amrywio'r gweithdy hwn

Yn hytrach na lansio rocedi, gallwn edrych ar lansio capsiwlau'n ddiogel ar blanedau.

Mae hyn yn newid y ffocws i'r grymoedd sy'n gysylltiedig â glanio offer a phobl yn ddiogel ar blanedau. Yn hytrach nag adeiladu rocedi, ceisir creu dyfeisiadau glanio sy'n gallu amddiffyn cynnwys y cerbyd.

Adborth a dderbyniwyd


Roedd yn wych eich cael chi yma a mwynhaodd y plant yn fawr! - Athro (Blwyddyn 5)