Dyma'r bedwaredd blaned o'r Haul.
Fe'i gelwir 'y blaned goch' oherwydd ei golwg anial a llychlyd. Er bod golwg anialwch arni, mae tymheredd ar yr arwyneb yn amrywio, rhwng 20℃ ar y cyhydedd a -153℃ wrth y pegynau.
Mae atmosffer Mawrth yn denau iawn ac mae wedi'i wneud o garbon deuocsid yn bennaf.
Mae dŵr i'w gael yn y rhanbarthau wrth y pegynau - ar ffurf iâ yn bennaf.
Planed daearol yw Mawrth (wedi'i gwneud o greigiau a/neu fetelau yn bennaf). Mae ganddi ddwy leuad, y rhai lleiaf eu maint yng nghysawd yr haul.
Mae hyd diwrnod ar Fawrth, sef 24 awr a 37 munud, yn debyg i ddiwrnod ar y Ddaear. Ond mae blwyddyn ar Fawrth (sef yr amser mae ei horbit yn cymryd i fynd amgylch yr haul) yn hirach o lawer, sef 687 o ddiwrnodau'r Ddaear.
Mae'r blaned tua hanner maint y Ddaear, gyda dim ond rhyw 38% o'r disgyrchiant.
Mae goleuni'n cymryd 13 munud i gyrraedd Mawrth o'r Haul.
Mawrth yw'r unig blaned yr anfonwyd cerbydau crwydro ati er mwyn archwilio'r arwyneb. Hefyd mae yn yr ail safle o ran y nifer o ymweliadau gan longau gofod
Y cyrch llwyddiannus cyntaf i Fawrth oedd cyrch hedfan heibio yn 1965. Bum mlynedd yn ddiweddarach llwyddodd llong ofod i fynd i orbit o amgylch y blaned am y tro cyntaf.
Hyd yn hyn, cafwyd 57 o gyrchoedd i Fawrth gan wahanol asiantaethau gofod. Dim ond 28 ohonynt fu'n llwyddiannus!
Ar hyn o bryd, mae 6 llong ofod yn mewn orbit o amgylch Mawrth, ac mae uned lanio ac un cerbyd crwydro yn dal i weithredu ar ei gylch arni.
Yn y pedair blynedd nesaf, mae asiantaethau yn gobeithio lansio 4 lloeren mewn orbit, 3 uned lanio, 3 cherbyd crwydro a hofrennydd drôn.
Yr EXOMars yw un o'r cyrchoedd i Fawrth sydd ar y gweill. Mae hynny'n waith ar y cyd rhwng yr ESA (yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd) a ROSCOSMOS (Corfforaeth Wladwriaethol Gweithgareddau Gofod Roscosmos). Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi cynorthwyo â gwaith cynhyrchu rhai elfennau o'r caledwedd a thechnolegau calibradau'r camerâu. I gael gwybod mwy am ein rhan ni yn y cyrch hwn, gweler gwefan EXOMars ym Mhrifysgol Aberystwyth
Defnyddiwch y wybodaeth uchod i ateb y cwestiynau hyn:
Dyma ddolen fydd yn eich cysylltu â'r daflen atebion ar gyfer yr ymarfer hwn. Peidiwch â'i defnyddio tan ar ôl i chi roi cynnig ar yr holl weithgareddau