Dyma'r chweched blaned oddi wrth yr Haul.
Sadwrn yw'r ail blaned fwyaf yng nghysawd yr Haul, ond dyma'r unig blaned allai arnofio mewn dŵr (pe bai gennych bwll digon mawr) oherwydd ei dwysedd isel iawn.
Gelwir y blaned yn gawr nwy oherwydd ei bod wedi'i ffurfio'n bennaf o nwyon hydrogen (tua 94%) a heliwm (tua 6%).
Mae Sadwrn yn troi ar ei hechelin mor gyflym mae hi'n amlwg wedi'i gwastadu. Mae un cylchdro o amgylch y blaned yn cymryd ychydig yn hirach na'r blaned Iau, sef 10 awr 42 munud. Oherwydd ei phellter oddi wrth yr Haul, mae'n cymryd 29 blwyddyn Daear i gwblhau un orbit.
Un o brif nodweddion Sadwrn yw ei chylchau 'gwastad' mawr. Maen nhw wedi'u ffurfio o ddarnau o rew, llwch a chreigiau, unrhyw beth rhwng maint gronyn o halen a thŷ.
Hyd yma, rydym wedi adnabod 62 lleuad o amgylch Sadwrn. Titan yw'r fwyaf a hithau yw'r ail leuad fwyaf yng nghysawd yr haul. Mae'n debyg mai'r chweched fwyaf yw un o'r darganfyddiadau mwyaf anhygoel hyd yn hyn - fe'i gelwir yn Enceladws ac mae wedi'i gorchuddio â rhew. Yn ôl arsylwadau diweddar, gwelwyd geiserau o anwedd dŵr sy'n dangos bod llawer o ddŵr hylifol oddi tani. Gellir dadlau, felly mai Enceladws yw'r ymgeisydd mwyaf tebygol ar gyfer bywyd estron yng nghysawd yr Haul.
Sadwrn yw un o'r pum planed y gellir eu gweld â llygad noeth fel golau llachar yn awyr y nos. Bydd angen ysbienddrych arnoch, fodd bynnag i weld y blaned a'i chylchau.
Pedair llong ofod yn unig sydd wedi ymweld â Sadwrn.
Teithiau hedfan-heibio oedd tair o'r teithiau hyn gan chwiliedyddion a wnaeth deithio heibio iddynt. Pioneer 11 oedd y cyntaf yn 1979, yna Voyager 1 yn 1980 a Voyager 2 yn 1981.
Y llong ofod ddiwethaf i ymweld â Sadwrn oedd Cassini yn 2004 pan aeth i mewn i'r orbit o amgylch y blaned er mwyn arsylwi arni, a'i chylchau a'i lleuadau. Dyma'r chwiliedydd a wnaeth ddarganfod eiserau anwedd dŵr Enceladws cyn dryllio yn erbyn atmosffer Sadwrn yn 2017.
Roedd Cassini hefyd yn cludo chwiliedydd glanio (o'r enw Huygen) a laniodd yn llwyddiannus ar arwyneb Titan - sef y glaniad cyntaf ar leuad planed arall a'r glaniad cyntaf yng nghysawd allanol yr haul.
Nid oes lansiadau yn yr arfaeth ar hyn o bryd ar gyfer teithio i Sadwrn yn y dyfodol, ond mae llawer o gynigion yn cael eu cyflwyno ar gyfer archwilio'r blaned a'i lleuadau yn fwy trylwyr.
Defnyddiwch y wybodaeth uchod i ateb y cwestiynau hyn:
Dyma ddolen fydd yn eich cysylltu â'r daflen atebion ar gyfer yr ymarfer hwn. Peidiwch â'i defnyddio tan ar ôl i chi roi cynnig ar yr holl weithgareddau