TinkerCad Circuits

English

Tinkercad Circuits i Addysgwyr

Pwrpas y dudalen hon yw rhoi canllawiau dysgu, adnoddau, a gwybodaeth am sut i ddefnyddio a chynnwys TinkerCad Circuits yn yr ystafell ddosbarth.

Cyflwyniad Fideo i TinkerCad Circuits (yn Saesneg)

Adnoddau ar gyfer Gwersi

Rydym yn gobeithio y bydd gennym ein pecyn o adnoddau ystafell ddosbarth ein hunain ar gael am ddim yn ein Siop TES cyn bo hir.

Yn y cyfamser:

Mae nifer o gynlluniau gwersi ar gael ar TinkerCad i athrawon - fodd bynnag, maen nhw'n canolbwyntio'n bennaf ar ddylunio 3D neu gylchedau rhaglennu.

Ar gyfer cylchedau sylfaenol (na ellir eu rhaglennu), mae tiwtorialau a phrosiectau ar gael yng nghanolfan ddysgu TinkerCad i'ch helpu i gychwyn arni.

Mae gennym sawl adnodd a ddefnyddiwn ar gyfer gweithgareddau ar-lein, ein gweithdai ein hunain, a Chlwb Roboteg Aber. Mae'r dolenni ar gael isod:

Rydym wedi llunio taflen waith ar-lein ar ddefnyddio adnodd adeiladu cylchedau TinkerCad.

Cyflwyniad i Gylchedau

Mae hwn yn trafod hanfodion beth yw cylched, sut i greu diagramau o gylchedau, cerrynt, foltedd, a gwrthiant.

Rydym wedi creu cyfres o gardiau her i gyflwyno cylchedau i aelodau Clwb Roboteg Aber.

Dylid nodi bod y rhain hefyd yn cynnwys rhywfaint o raglennu Micro:Bit. Am gymorth, gweler ein Canllawiau Micro:Bit i Addysgwyr.

Rydym hefyd wedi recordio gwers Cyflwyniad i Gylchedau ar gyfer aelodau Clwb Roboteg Aber.

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae TinkerCad yn darparu Canllaw Swyddogol i Tinkercad Circuits.

Ar hyn o bryd rydym yn gweithio ar adnoddau ychwanegol i gefnogi addysgwyr gyda chylchedau y gellir eu rhaglennu yn TinkerCad.

Cysylltu â ni

Rydym yn croesawu adborth, ymholiadau a chwestiynau.

Tally Roberts - Swyddog Allgymorth