Mae Grŵp Roboteg Ddeallus Prifysgol Aberystwyth yn cynnal ei Wythnos Roboteg Aber flynyddol rhwng y 17fed a'r 23ain o Fehefin 2023 yn rhan o Ŵyl Roboteg y Deyrnas Unedig.
Rydyn ni'n dychwelyd i'n lleoliad glan môr yn Bandstand Aberystwyth.
Yn rhan o'r digwyddiad hwn, mae robotiaid yn cael eu dangos o wahanol feysydd. Yn eu plith mae ymchwil, allgymorth, hobïau myfyrwyr a staff, ac addysgwyr.
Bydd gennym bobl wadd o gwmnïau a grwpiau lleol a fydd hefyd yn arddangos.
Arddangosfa Roboteg Rithwir, yn cael ei ffrydio'n fyw ar sianel YouTube Rhwydwaith UK-RAS. Cyfle i weld y tu mewn i wyth o labordai roboteg gorau'r DU, ac eleni mae'n cynnwys Roboteg Faes Aberystwyth.
Gwyliwch y rhaghysbysebion nawr:
Dyma rai gweithgareddau a gweithdai i'ch rhoi ar ben ffordd
Mae llawer rhagor o weithdai ar gael ar Hwb Allgymorth yr Cyfrifiadureg.