Wythnos Roboteg Aber 2024

English

Wythnos Roboteg Aber 2024

Mae Grŵp Roboteg Ddeallus Prifysgol Aberystwyth yn cynnal ei Wythnos Roboteg Aber flynyddol rhwng y 15fed a'r 15fed o Fehefin 2023 yn rhan o Ŵyl Roboteg y Deyrnas Unedig.

LabTraeth: Ddydd Sadwrn, y 15fed o Fehefin 10yb - 4yp

Llun o bawb a oedd yn gysylltiedig â Labordy'r Traeth 2019 y tu allan i'r Bandstand yn Aberystwyth.

Rydyn ni'n dychwelyd i'n lleoliad glan môr yn Bandstand Aberystwyth.

Yn rhan o'r digwyddiad hwn, mae robotiaid yn cael eu dangos o wahanol feysydd. Yn eu plith mae ymchwil, allgymorth, hobïau myfyrwyr a staff, ac addysgwyr.

Bydd gennym bobl wadd o gwmnïau a grwpiau lleol a fydd hefyd yn arddangos.


Arddangoswyr blaenorol:

Dr Patricia Shaw gyda Miro, anifail anwes robotig
Dr Fred Labrosse gyda cherbyd annibynnol sy'n mynd ar bob math o dir.
R2D2 â'i bartner Steampunk. Crëwyd gan Stephen Fearn
Dr Hannah Dee a'i llong danfor robotig
Tally Roberts gydag amrywiaeth o robotiaid addysgol
Un arall o gerbydau annibynnol Dr Fred Labrosse sy'n mynd ar bob math o dir
Sivert Hellvik Havsø gyda Cranc, robot arolygu'r arfordir
Dr Helen Miles gyda'r Crwydrwr Barnes

Tynnwyd y lluniau i gyd gan Suzanne Fearn, a hi sydd wedi darparu'r lluniau hefyd (2021)

Gweithgareddau Wythnos Roboteg

Science Cafe: Technology for Supporting Independent Living

A selection of robots and smart equipment for smart home usage.

Dr Patricia Shaw, the Leader of our Intelligent Robotics Research Group at Aberystwyth University will be speaking on how smart technology can be used to support independent living.

This is hosted by Aberystwyth Science Cafe and is open to all.

Please join us at the Arts Centre on our Penglais Campus before the 7:30pm start on Monday 17th June.

For more information, please visit the Aberystwyth Science Cafe Facebook page.

Gemau Olympaidd Robotiaid

Digwyddiad a drefnwyd gydag Adran Addysg Cyngor Sir Ceredigion.

Bydd disgyblion o ysgolion ar draws Ceredigion yn ymuno â ni ar y campws i gymryd rhan mewn cystadleuaeth Lego Robot.

Bydd tlws i'r enillydd cyffredinol.

Methu Aros?

Dyma rai gweithgareddau a gweithdai i'ch rhoi ar ben ffordd

Mae llawer rhagor o weithdai ar gael ar Hwb Allgymorth yr Cyfrifiadureg.