Prosiect Ysgol

English

Prosiect y Gymdeithas Frenhinol: Awtomeiddio Tai Gwydr gan ddefnyddio BBC Micro:Bits

Fe wnaeth Ffederasiwn Ysgol Penrhyn-coch ac Ysgol Penllwyn gais llwyddiannus am Grant Partneriaeth gan y Royal Society i ymgymryd â phrosiect o'r enw:

Sut y gellir defnyddio Micro:Bits i ddeall a gwella effeithlonrwydd twf planhigion mewn tŷ gwydr awtomataidd.

Roedd y cais yn dibynnu ar sicrhau partner STEM mewn ymchwil a/neu ddiwydiant. Gwirfoddolodd Dr Patricia Shaw, Uwch Ddarlithydd yn y Brifysgol, pennaeth ein Grŵp Ymchwil Roboteg Deallus, ac enillydd Gwobr Gymunedol UK-RAS 2023.

Gyda chymorth a chefnogaeth Swyddog Allgymorth y Gyfadran, Tally Roberts, rydym yn addasu, datblygu a chyflwyno amrywiaeth o sesiynau dros dymhorau'r gwanwyn a'r haf yn 2024.

Gallwch ddilyn ein hynt yma. Os oes gennych ddiddordeb mewn cynnal prosiect tebyg, rydym hefyd wedi darparu dolenni i adnoddau perthnasol.

Dewiswch bennawd un o'r sesiynau i gychwyn arni.

Fe wnaethom ymweld â'r ddwy ysgol ddydd Llun 15 Ionawr 2024 i gynnal addasiad o'n gweithdy Cyflwyniad i Micro:Bits.

Amcanion Dysgu

Offer

Adnoddau

Mae sesiynau un a dau o'n Cyfres ar-lein o Weithdai Micro:Bit yn cynnwys fersiynau wedi'u recordio o'r un deunydd mewn mwy o fanylder. Mae yna ymarferion ychwanegol hefyd (gydag awgrymiadau ac atebion) i atgyfnerthu'ch dysgu.

Rydym yn gobeithio diweddaru ein gweddalen Rhaglennu BBC Micro:Bit i Addysgwyr i gynnwys fersiwn ddiweddarach o'r feddalwedd Makecode Classrom.

Mae gwefan Makecode yn cynnwys nifer o sesiynau tiwtorial sy'n dangos i ddefnyddwyr sut i greu gwahanol raglenni.

Mae Sefydliad Addysgol Micro:Bit wedi creu detholiad o Adnoddau Micro:Bit i athrawon eu defnyddio yn yr ystafell ddosbarth - o gynlluniau gwersi i bosteri, a mwy.

Mae Technocamps hefyd wedi creu adnoddau i gynorthwyo dysgwyr i ddechrau defnyddio Micro:Bit gyda detholiad o brosiectau. Mae eu hadnoddau ar gael i bob plentyn ysgol yng Nghymru trwy Hwb.gov.uk.

Fe wnaethom ymweld â'r ysgolion cynradd eto yn ystod yr wythnos a ddechreuodd ar 29 Ionawr 2024. Ar gyfer y sesiwn hon fe wnaethom gynnal gweithgaredd 'syrcas y synwyryddion'.

Amcanion Dysgu

Offer

Y Gweithgaredd

Ar ôl dosbarthu'r deunydd dysgu, rhannwyd y dosbarth yn 5 grŵp. Roedd gan bob grŵp ddetholiad o wahanol gydrannau, y cardiau disgrifio perthnasol, diagramau gwifro, a'r rhaglenni yr oedd eu hangen i'w profi.

Y nod oedd paru'r gydran â'r diagram gwifrio cywir, yna defnyddio'r rhaglenni a ddarparwyd i'w profi, yn y gobaith o'u paru â'r disgrifiad cywir. Ar ôl 15-20 munud symudwyd y grwpiau o amgylch yr ystafell i'r bwrdd nesaf a'r gyfres nesaf o gydrannau.

Fe wnaethom gynnwys 24 o gydrannau gan ofyn i'r timau nodi beth oeddent a chofnodi eu canlyniadau mewn tabl.

Cawsom amrywiaeth o lwyddiant rhwng y timau - gan adnabod rhwng 3 ac 16 o gydrannau.

Adnoddau

Byddem yn argymell i ddechrau bod dysgwyr yn edrych ar y fideo a'r ymarferion yn Sesiwn Pedwar ein Cyfres Micro:Bit. Bydd hyn yn rhoi mwy o wybodaeth am newidynnau a sut i ddefnyddio'r pinnau ar y Micro:Bit.

Nid oes recordiad na fersiwn ar-lein o'r deunydd hwn ar gael (ar hyn o bryd). Serch hynny, dyma'r cyflwyniad 'Syrcas y Synwyryddion' a ddefnyddiwyd i arwain y sgwrs.

Addaswyd y diagramau gwifrio a'r rhaglenni enghreifftiol a ddefnyddiasom o ganllaw ar-lein Keyestudio ar gyfer eu Pecyn 37-mewn-1 i Ddechreuwyr.

Gallwch lawrlwytho ein Pecyn Atebion yma (yn Saesneg). Mae hwn yn cyfuno'r diagramau gwifrio â'u cardiau disgrifio sy'n cynnwys gwybodaeth ychwanegol, ac mae'n gorffen gyda'r tabl canlyniadau terfynol.

I gael rhagor o ddeunydd am electroneg gyda Micro:Bits, gweler sesiynau 1-3 o'n Cyfres Electroneg Ar-lein. Mae Canllaw ar Tinkercad i Addysgwyr ar gael hefyd - dyma'r feddalwedd a ddefnyddir ar gyfer ein deunydd electroneg ar-lein.

Cynaliasom y sesiwn hon ar sut i gynllunio arbrawf yn y ddwy ysgol gynradd ddydd Llun 5 Chwefror 2024.

Bu hyn yn gyfle i ni roi'r arbrawf yn ymwneud â phlanhigion i'r grwpiau dosbarth.

Amcanion Dysgu

Offer

Adnoddau

Nod y prosiect hwn yw cyflwyno rhyw fath o awtomeiddio i dai gwydr / twnelau plastig eu hysgol. Mae angen i'r dosbarthiadau ystyried beth sy'n gwneud i blanhigion dyfu'n iach a chael darlleniadau synhwyrydd i gyd-fynd â'r canlyniadau ar gyfer eu dyluniadau peirianyddol diweddarach.

Rydym wedi rhannu pob dosbarth yn 5 grŵp ac wedi rhoi arbrawf i bob un o'r grwpiau hyn ei gynnal.

  1. Faint o olau sydd ei angen ar blanhigion i dyfu'n iach?

  2. Faint o ddŵr sydd ei angen ar blanhigion i dyfu'n iach?

  3. Pa liw golau y mae planhigion yn tyfu orau ynddo?

  4. Faint o bridd sydd ei angen ar blanhigion?

  5. Beth yw'r tymheredd gorau i blanhigion dyfu'n iach?

Bydd yr arbrofion hyn yn cael eu cynnal yn yr ysgolion am 3-4 wythnos, gyda darlleniadau synhwyrydd yn cael eu cymryd ar bob diwrnod ysgol.

Offer ac Adnoddau

Rydym wedi llunio Pecyn Arbrawf Planhigion ar gyfer y 5 arbrawf y mae pob dosbarth yn eu cynnal. Mae hyn yn cynnwys yr offer y byddem yn ei argymell, methodolegau, tablau canlyniadau enghreifftiol, a rhaglenni synhwyrydd Makecode.

Cynhaliwyd y sesiwn hon ar ganlyniadau a dadansoddi ddydd Llun 18 Mawrth 2024.

Amcanion Dysgu

Offer

Bydd y dysgwyr angen pensiliau a phren mesur (gyda milimetrau) ar gyfer y sesiwn hon. Mae cyfrifianellau yn ddewisol - ond bydd rhai rhaniadau hir sy'n arwain at ddegolion.

Adnoddau

Un wers allweddol a ddysgwyd wrth geisio cynnal yr arbrawf hwn mewn ysgolion, fyddai i ddewis yr adeg o'r flwyddyn yn fwy gofalus. Roedd y tywydd yn rhy oer i'r hadau dyfu yn y cyfnod byr o amser a ddarparwyd.

Yn ffodus, cynhaliodd Dr Patricia Shaw gyfres gyfochrog o arbrofion mewn amgylchedd haws i'w reoli yn un o'n labordai yn y Brifysgol.

Cliciwch ar y ddolen i weld ein tablau o'r canlyniadau (pdf).

Dychwelom i'r ysgolion ar ôl gwyliau'r Pasg i gyflwyno rhai cydrannau newydd sydd ar gael iddynt ar gyfer eu cynlluniau tŷ gwydr.

Amcanion Dysgu

Offer

Adnoddau

Yn anffodus, nid oes recordiad na chyflwyniad ar gael ar gyfer y sesiwn hon.

Mae gweithgaredd arall ar gyfathrebu radio ar gael yn ein Cyfres o Weithdai Micro:Bit, Sesiwn Tri: Cyfathrebu rhwng Micro:Bits.

Addaswyd y diagramau gwifro a'r rhaglenni enghreifftiol a ddefnyddiasom ar gyfer y cydrannau newydd hyn o ganllaw ar-lein Keyestudio ar gyfer eu Pecyn 37-mewn-1 i Ddechreuwyr.

Cynhaliwyd y sesiwn hon yn y ddwy ysgol ddydd Llun 22ain Ebrill.

Nod y gweithgaredd hwn yw dysgu sgiliau dylunio newydd i'r disgyblion gan ddefnyddio meddalwedd Tinkercad yn yr ystafell ddosbarth.

Amcanion Dysgu

Offer

Adnoddau

Ar gyfer athrawon: Mae Tinkercad yn cynnig cyfleusterau ystafell ddosbarth - mae hyn yn golygu mai dim ond chi fydd yn gorfod mewngofnodi i'r feddalwedd. I gael rhagor o wybodaeth am sut i ddefnyddio'r feddalwedd hon, gweler ein Canllaw ar Gylchedau Tinkercard i Addysgwyr - mae dylunio 3d yn defnyddio'r un swyddogaeth ystafell ddosbarth.

Gweithgaredd Un: Taflen waith Her y Siapiau..

Gweithgaredd Dau: Cyfarwyddiadau sut i Adeiladu Roced..

Gwnaethom ddychwelyd i'r ysgolion ddydd Llun 13 Mai i roi rhywfaint o arweiniad a gwybodaeth am wahanol ddulliau o gyflwyno dyluniad.

Amcanion Dysgu

Offer

Adnoddau

Nid oes gennym recordiadau o'r cyfarfod hwn. Fodd bynnag, dyma'r sleidiau ar gyfer ein cyflwyniad Rhoi Cyflwyniad.

Roedd gweddill y sesiwn yn cynnwys gweithio gyda phob grŵp i'w helpu i sefydlu rolau a chynnwys.

Cyflwynodd disgyblion o'r ddwy ysgol eu cyflwyniadau dylunio i banel beirniadu a oedd yn cynnwys Dr Patricia Shaw, Dr Helen Miles, a Dr Tomos Fearn ddydd Llun 20 Mai.

Roedd yr ymdrech a'r brwdfrydedd a ddangoswyd yn ystod y sesiynau hyn yn ei gwneud hi'n anodd iawn barnu'r dyluniadau. Yr agwedd allweddol ar gyfer y panel beirniadu oedd dichonoldeb y dyluniadau a gyflwynwyd gan y byddwn yn gweithio ar eu gweithredu dros yr wythnosau nesaf.

Yn Ysgol Penllwyn, byddant yn gosod dau ddyluniad system, un gyda dyfrio â llaw, tra bo'r llall yn awtomataidd.

Yn Ysgol Penrhyn-coch, mae'r cynllun terfynol yn uno'r ddau gyflwyniad gorau, gan addasu agweddau o'r ddau.

Ar ôl hanner tymor, bydd pawb yn ymwneud â gweithredu'r dyluniadau buddugol, gyda'n staff gwirfoddol yn dychwelyd i gynorthwyo gyda'r electroneg i'w helpu i ddechrau arni.