Fy enw i yw Tally Roberts a fi yw Swyddog Allgymorth Cyfadran Busnes a'r Gwyddorau Ffisegol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Roeddwn am fanteisio ar y cyfle hwn i gyflwyno fy hun ac egluro ychydig am ein gweithgareddau allgymorth.
Mae ein hystod lawn o weithdai wyneb yn wyneb a rhithiol am ddim i ysgolion, grwpiau neu ddigwyddiadau yn parhau i ehangu. Gellir gweld y ddewislen gyfredol yma:
Dewislen Gweithgareddau Allgymorth.
Rydym yn deall pa mor anodd a llawn straen y bu pandemig Covid-19 i athrawon, rhieni a myfyrwyr fel ei gilydd. Felly, fe wnaethom drefnu bod gweithdai ac adnoddau ar gael yn uniongyrchol i ddysgwyr yma.
Gan fod y rhain wedi'u hanelu at ddysgu mwy annibynnol, yn hytrach nag amgylcheddau ystafell ddosbarth (rhithiol neu go iawn), penderfynwyd addasu rhai o'r deunyddiau hyn yn becynnau adnoddau i athrawon ac rydym wedi sicrhau eu bod ar gael am ddim i athrawon drwy TES (The Times Educational Supplement). Gallwch ddod o hyd i'r adnoddau hyn yn ein siop TES.
Rydym yn datblygu deunydd a gweithdai newydd yn gyson. Os oes gennych awgrym, ymholiad, neu os ydych yn chwilio am gymorth ar bwnc/maes penodol, yna mae croeso i chi gysylltu â mi (nar25@aber.ac.uk).
Y tymor diwethaf, llwyddodd ein haelodau i raglennu Cerbyd Crwydro M.A.R.S Micro:Bit, a dysgu sut i adeiladu a rhaglennu system electroneg diogelwch yn y cartref. Y tymor hwn byddant yn dysgu mwy am raglennu Arduino i roi cynnig ar heriau gan ddefnyddio robotiaid Valiants ac Elegoo.
Cofrestriad Clwb Roboteg Aber 2022Rydym wedi ehangu ein detholiad o weithdai am ddim i ysgolion, grwpiau a digwyddiadau ymhellach.
Gweithgareddau AllgymorthEleni byddwn yn noddi dau dîm newydd sy'n cymryd rhan ym Mhrosiect Chweched Dosbarth EESW.
Prosiect EESW 2021-22Diolch i bawb sydd wedi lawrlwytho ein hadnoddau ystafell ddosbarth o Siop TES AberOutreach. Hyd yn hyn, mae'r adnoddau hyn wedi cael eu lawrlwytho dros 3000 o weithiau!
Siop TES