Strwythur Sefydliadol

English

Strwythur Sefydliadol

Rhaglen Allgymorth Safon Uwch

Croeso i rifyn o Gyfres Darlithoedd Fideo Ysgol Fusnes Aberystwyth.

Mae'r darlithoedd hyn yn cyd-daro â'r Cwricwlwm Astudiaethau Busnes Safon Uwch ledled y Deyrnas Unedig.

Ymddiheuriadau mai dim yn Saesneg y maent ar gael ar hyn o bryd.




Fersiwn pdf o'r cyflwyniad

Ymarfer

Busnes canolig yng Nghaer yw RemaPlay.

Maen nhw'n gwerthu teganau addysgol drwy'r we, archebu drwy'r post a chatalogau.

Maen nhw'n canolbwyntio ar gystadlu drwy gyflenwi nwyddau am gost isel.

Mae dwy lefel i'r sefydliad: Y teulu sy'n berchen arno a'r staff sy'n cael eu talu fesul awr.

Dangosir dosbarthiad y staff sy'n cael eu talu fesul awr yn y tabl isod.

Adran Nifer Staff
cynhyrchu 24
Pacio 15
Warws 5
Swyddfa 4

Problemau Cyfredol

Cwestiynau

  1. Amlinellwch pam y gallai diffyg hierarchaeth arwain at broblemau wrth redeg y busnes.

  2. Sut mae'r strwythur presennol yn effeithio ar;
    1. Broffidioldeb?
    2. Ysbryd?
    3. Cyfathrebu yn gyffredinol

  3. Eglurwch sut dylai RemaPlay gael ei strwythuro drwy siart sefydliadol.

  4. Sut gallai eich strwythur sefydliadol chi wella gweithrediadau a phroffidioldeb?