Ffynonellau Cyllid

English

Ffynonellau Cyllid

Rhaglen Allgymorth Safon Uwch

Croeso i rifyn o Gyfres Darlithoedd Fideo Ysgol Fusnes Aberystwyth.

Mae'r darlithoedd hyn yn cyd-daro â'r Cwricwlwm Astudiaethau Busnes Safon Uwch ledled y Deyrnas Unedig.

Ymddiheuriadau mai dim yn Saesneg y maent ar gael ar hyn o bryd.


Fersiwn pdf o'r cyflwyniad

Ymarfer

Gweithgaredd un

  1. Rhestrwch bum enghraifft o ffynonellau cyllid a grëir yn fewnol.
  2. Rhestrwch bum enghraifft o ffynonellau cyllid a grëir yn allanol.
  3. Beth yw manteision pob un o'ch ffynonellau cyllid?

Gweithgaredd dau

  1. Trafodwch y ffactorau sy'n rhan o wneud penderfyniadau A yw pwysigrwydd pob ffactor yn newid gan ddibynnu ar faint a natur y cwmni? Pam?
  2. Beth yw'r ffactorau pwysicaf sy'n rhan o wneud penderfyniadau i gwmni newydd sbon heb lawer o asedau?

Gweithgaredd tri: Cwestiynau amlddewis

  1. P'un o'r ffynonellau cyllid canlynol nad yw'n cael ei chreu'n fewnol?
    1. Enillion a Gedwir yn ôl
    2. Gwerthu asedau
    3. Benthyciadau banc
    4. Lleihau lefelau stoc

  2. P'un o'r ffynonellau cyllid canlynol sy'n cael ei hystyried yn ffynhonnell fyrdymor?
    1. Cyllid prydles
    2. Dyledebau
    3. Gorddrafft
    4. Bond

  3. Pam mae angen cyllid ar Fusnes?
    1. Er mwyn rhoi cychwyn ar bethau
    2. I weithredu
    3. I ehangu
    4. Pob un o'r rhai uchod.

  4. Mae gwariant refeniw yn ymwneud ag arian sy'n cael ei wario ar weithgareddau o ddydd i ddydd.
    1. Gwir
    2. Anghywir

  5. Mae elw a gedwir yn ôl yn ffynhonnell gyllid rad
    1. Gwir
    2. Anghywir

  6. Mae talu llog ar fenthyciad banc yn
    1. Fantais
    2. Anfantais

  7. Mae gwerthu asedau presennol yn fath ar gyllido mewnol
    1. Gwir
    2. Anghywir

  8. Mae costau gweinyddol yn ffynhonnell gyllid
    1. Gwir
    2. Anghywir

  9. P'un o'r canlynol sydd â chyfrifoldeb dros reoli cyllid?
    1. Perchnogion y cwmni
    2. Y banc
    3. Y cwsmeriaid
    4. Y wasg

  10. Nid oes dim anfanteision i ffynonellau cyllid allanol.
    1. Gwir
    2. Anghywir