Cynllunio Strategol: Marchnata

English

Cynllunio Strategol: Marchnata

Rhaglen Allgymorth Safon Uwch

Croeso i rifyn o Gyfres Darlithoedd Fideo Ysgol Fusnes Aberystwyth.

Mae'r darlithoedd hyn yn cyd-daro â'r Cwricwlwm Astudiaethau Busnes Safon Uwch ledled y Deyrnas Unedig.

Ymddiheuriadau mai dim yn Saesneg y maent ar gael ar hyn o bryd.


Fersiwn pdf o'r cyflwyniad

Ymarfer

Mae Mr a Mrs Roberts yn berchen ar siop fara ar y stryd fawr mewn tref farchnad wledig. Torthau a rholiau maent yn eu gwerthu'n bennaf, ac mae'r rhain yn cael eu pobi'n ffres i bobl leol ac i dwristiaid. Maent hefyd yn cynhyrchu amrywiaeth o gacennau ac mae ganddynt enw da am gynhyrchu byns Chelsea o safon. Maent ar agor 6 diwrnod yr wythnos ac maent ar hyn o bryd yn cymryd oddeutu £600 y dydd. Mae eu costau'n codi ac nid ydynt am gynyddu'u prisiau. Maent yn chwilio am strategaeth farchnata i'w helpu nhw i werthu rhagor o'u cynnyrch. Eu nod yw sicrhau £1000 o refeniw bob dydd o fewn y 2 flynedd nesaf, ond nid ydynt yn siŵr sut mae cyflawni hyn. Maent yn fodlon rhoi cynnig ar ryseitiau newydd ac mae ganddynt ystafell fechan wrth ochr y siop fara sy'n wag ar hyn o bryd.

Rydych yn ymgynghorydd marchnata a fydd yn eu cynghori nhw ynglŷn â'r llwybr(au) gorau ar eu cyfer. Byddwch yn defnyddio matrics Ansoff i'ch helpu chi.

(Treiddio'r farchnad - cynhyrchion presennol i farchnadoedd presennol, ffactor risg 1)

(Datblygu Cynnyrch Newydd neu Gyflwyno Cynnyrch Newydd - cynhyrchion newydd i farchnadoedd presennol, ffactor risg 2)

(Datblygu'r Farchnad - cynhyrchion presennol i farchnadoedd newydd, ffactor risg 4)

(Arallgyfeirio - cynhyrchion newydd i farchnadoedd newydd - gall y rhain fod yn gynhyrchion/marchnadoedd sy'n gysylltiedig â'r hyn sy'n cael ei gynnig ar hyn o bryd, neu rai nad ydynt yn gysylltiedig â'r hyn sy'n cael ei gynnig ar hyn o bryd, ffactor risg 16)

Defnyddiwch y matrics i feddwl am un syniad ar gyfer pob maes yn y matrics (uchod), ac esboniwch sut y bydd eich syniadau chi yn helpu Mr a Mrs Roberts i gyrraedd eu nod.

Cysylltwch â ni

Swyddog Allgymorth y Ysgol Fusnes Aberystwyth: Dr Sohpie Bennett
E-bost: sob@aber.ac.uk
Syddog Allgymorth y Gyfadran: Natalie Roberts
E-bost: nar25@aber.ac.uk

Yn ôl i Dudalen Gartref Busnes