Cyflwyno Cynnyrch Newydd: Proses

English

Cyflwyno Cynnyrch Newydd: Proses

Rhaglen Allgymorth Safon Uwch

Croeso i rifyn o Gyfres Darlithoedd Fideo Ysgol Fusnes Aberystwyth.

Mae'r darlithoedd hyn yn cyd-daro â'r Cwricwlwm Astudiaethau Busnes Safon Uwch ledled y Deyrnas Unedig.

Ymddiheuriadau mai dim yn Saesneg y maent ar gael ar hyn o bryd.


Fersiwn pdf o'r cyflwyniad

Ymarfer

Daw'r ymarfer isod o wefan Great Ideas for Teaching Marketing.

Cynnyrch Newydd: Penderfyniad Anodd

Gillette yw'r arweinydd yn y farchnad raseli. Ond, er mwyn cadw'r safle hwnnw, bu'n rhaid gwneud ambell benderfyniad anodd ar hyd y daith. Adolygwch y sefyllfa ganlynol - pe bai chi yn Brif Swyddog Gweithredol y cwmni, a fyddech chi wedi gwneud yr un penderfyniad?

Tasg

Mae arloesedd technoleg eu raseli yn destun balchder cwmni Gillette. Felly, ddau ddegawd yn ôl nid oedd yn syndod gweld y Prif Swyddog Gweithredol yn cymeradwyo datblygu rasel newydd (sef y Mach 3 yn ddiweddarach - rasel dri llafn cyntaf y byd). Er hynny, roedd y penderfyniad hwn yn rhyfeddol pan ystyriwn yr amgylchiadau a arweiniodd at greu'r cynnyrch, sef:

Cwestiynau

  1. Fel yr amlygwyd uchod, beth oedd y dangosyddion cadarnhaol a negyddol ar gyfer datblygu a lansio'r cynnyrch?
  2. A ydych yn meddwl y byddai'r rhan fwyaf o gwmnïau eraill wedi penderfynu bwrw ati i ddatblygu'r cynnyrch hwn, o ystyried y wybodaeth yn yr achos uchod?
  3. Pe na bai Gillette yn arwain y farchnad, a fydden nhw wedi gwneud yr un penderfyniad?
  4. Ac eithrio cost y datblygiad a'r lansiad, pa risgiau eraill oedd ynghlwm wrth lansio Mach 3?

Cysylltwch â ni

Swyddog Allgymorth y Ysgol Fusnes Aberystwyth: Dr Sohpie Bennett
E-bost: sob@aber.ac.uk
Syddog Allgymorth y Gyfadran: Natalie Roberts
E-bost: nar25@aber.ac.uk

Yn ôl i Dudalen Gartref Busnes