Segmentu, Targedu a Lleoli

English

Segmentu, Targedu a Lleoli

Rhaglen Allgymorth Safon Uwch

Croeso i rifyn o Gyfres Darlithoedd Fideo Ysgol Fusnes Aberystwyth.

Mae'r darlithoedd hyn yn cyd-daro â'r Cwricwlwm Astudiaethau Busnes Safon Uwch ledled y Deyrnas Unedig.

Ymddiheuriadau mai dim yn Saesneg y maent ar gael ar hyn o bryd.


Fersiwn pdf o'r cyflwyniad

Ymarfer

Addaswyd o gyn-bapurau arholiad CBAC

Cwestiwn Un

Yn ystod eich adegau allan yn y blynyddoedd diwethaf, rydych wedi sylwi bod llawer o wahanol fathau o geir yn cael eu gwerthu yn y DU. Wrth edrych yn fwy manwl, rydych wedi cofnodi bod y gwahanol fathau o geir yn cael eu gwerthu i bobl wahanol iawn. Dylech wybod o'ch astudiaethau mai canlyniad segmentu'r farchnad yw hyn.

Eglurwch mewn 30 munud a chan ddefnyddio dau gysyniad o segmentu'r farchnad, sut gall Ford a'i gwsmeriaid elwa o'r agwedd farchnata hon

Cwestiwn Dau

Roedd Martin Waites, y Rheolwr Gyfarwyddwr, newydd gwblhau taith o amgylch y ffatri. Mae'r busnes yn cynhyrchu amrywiaeth o eitemau ar gyfer y cartref a'r ardd a chafodd Martin fraw o weld nifer y potiau gardd oedd yn cymryd cymaint o le yn y warws. Galwodd Mike Hallinan, ei reolwr gwerthu a marchnata, i'w swyddfa i drafod y mater. "Mae hi'n ddiwedd Medi ac mae llawer gormod o stoc yr haf yn y warws - ac mae dros hanner y stoc yn botiau gardd seramig mawr. Cefais air â chi y llynedd ynglŷn â chadw gormod o stoc. Dyma eich rhybudd olaf. Rwyf am i chi a'ch tîm gwerthu werthu'r potiau yma a gwaredu'r warws ohonynt cyn gynted â phosib. Os na welir cynnydd erbyn yr adeg yma fis nesaf, byddaf yn cymryd camau".

Eglurwch y dulliau y gallai Mike Hallinan, y rheolwr gwerthu a marchnata, eu defnyddio i dargedu prynwyr y stoc dros ben.

Cysylltwch â ni

Swyddog Allgymorth y Ysgol Fusnes Aberystwyth: Dr Sohpie Bennett
E-bost: sob@aber.ac.uk
Syddog Allgymorth y Gyfadran: Natalie Roberts
E-bost: nar25@aber.ac.uk

Yn ôl i Dudalen Gartref Busnes